Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau Cyffredin yr Her

Mae BetterPoints Wrecsam yn ymwneud ag ysbrydoli teithiau iachach. Allwch chi helpu i greu Wrecsam lanach a gwyrddach drwy deithio mewn ffyrdd sy'n fuddiol i'r amgylchedd, i'ch iechyd ac i'ch cymuned, yn ogystal â helpu'r economi leol hefyd? Gweler ein Cwestiynau Cyffredin isod, a chysylltwch â ni os nad yw'r ateb rydych yn chwilio amdano yno.

‍

Beth yw BetterPoints Wrecsam?

‍

Rhaglen wobrwyo am ddim yw BetterPoints Wrecsam sydd wedi'i chynllunio i'ch helpu i fod yn egnïol, teithio mewn ffyrdd gwyrddach, a chefnogi masnachwyr lleol ac elusennau. Mae'n gwobrwyo cerdded, olwyno, rhedeg, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i unrhyw un sy'n byw, gweithio neu'n astudio yn Sir Wrecsam.

‍

Sut mae BetterPoints Wrecsam wedi'i ariannu?

‍

Mae BetterPoints Wrecsam yn beilot a ariennir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

‍

Pam ddylwn i gymryd rhan?

‍

Mae BetterPoints yn ap sydd wedi ennill gwobrau ac sy'n annog pobl i gerdded, olwyno, rhedeg, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn amlach, yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau eraill i wella eich iechyd a'ch lles. Bydd cymryd rhan yn eich galluogi i ennill gwobrau am deithio mewn ffyrdd iachach a gwyrddach. Gallwch gefnogi masnachwyr lleol ac elusennau gyda'r pwyntiau BetterPoints rydych yn eu hennill. Bydd y data diogel a dienw a ddarperir drwy eich cyfranogiad hefyd yn helpu Cyngor Wrecsam i wella darpariaeth ar gyfer teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus, gan helpu i wneud Wrecsam yn lle glanach, gwyrddach ac yn fwy byw i bawb.

‍

Sut allaf gymryd rhan?

‍

Edrychwch ar dudalen Ymunwch â BetterPoints Wrecsam, neu'n gryno:

‍

  • Lawrlwythwch ap BetterPoints am ddim o'r App Store neu Google Play.
  • Cofrestrwch gyfrif (a rhowch y cod cyfeirio wrexooa os ydych yn byw y tu allan i Sir Wrecsam).
  • Cwblhewch yr arolwg sylfaenol byr.
  • Ewch ati i droi tracio ymlaen yn y gornel dde uchaf ar y tab Hafan.
  • Gwiriwch falans eich pwyntiau a rhoi i'ch hoff achos neu wobrwyo eich hunan gyda thaleb drwy'r tab Gwobrau.

‍

Sut gallaf ennill pwyntiau neu ennill gwobr?

‍

Gallwch ennill pwyntiau ac ennill llawer o wobrau gwych drwy deithio ar droed, ar feic neu drwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

‍

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng BetterTickets a BetterPoints?

‍

Gellir ennill pwyntiau BetterPoints drwy dracio gweithgareddau cymwys – dros amser maent yn cronni. Mae balans eich pwyntiau yn ymddangos yn y ddewislen ar ochr chwith yr ap. Unwaith y byddwch wedi casglu digon o bwyntiau, gallwch eu cyfnewid am dalebau yng nghatalog yr ap neu eu rhoi i elusen. Mae pob 1,000 o bwyntiau BetterPoints yn werth £1.

Mae BetterTickets yn geisiadau i mewn i rafflau gwobr a enillir am wneud gweithgaredd penodol. Mae'r tocynnau rydych yn eu hennill yn eich rhoi'n awtomatig i mewn i'r rafflau perthnasol. Po fwyaf o docynnau a enillir gennych, y mwyaf yw eich siawns o ennill. Gall gwobrau gynnwys pwyntiau BetterPoints a phethau penodol fel beiciau trydan a seibiannau byr mewn dinasoedd Ewropeaidd.

‍

Ar beth alla i wario fy mhwyntiau?

‍

Tapiwch Gwobrau 🎁 i bori trwy'r elusennau a'r catalog gwobrau, sy'n cynnwys talebau gan fusnesau lleol annibynnol yn ogystal â brandiau'r stryd fawr.

‍

A allaf gymryd rhan os wyf yn defnyddio cadair olwyn, ac os felly, sut gallaf gofnodi fy nheithiau?

‍

Gallwch! Gellir cofnodi pob math o gadeiriau olwyn fel 'olwyno' yn ein hap. Oherwydd y synwyryddion symudiad sydd wedi'u cynnwys yn eich dyfais, a'r algorithmau yn yr ap, mae'n bosibl y bydd yn tybio eich bod yn beicio yn hytrach nag yn olwyno. Ar eich llinell amser, ar ôl cwblhau eich taith, byddwch yn gallu diwygio hyn i 'olwyno' a bydd eich taith yn cael ei diweddaru. Byddwch yn cael yr un nifer o bwyntiau/tocynnau ag ar gyfer teithiau cerdded, rhedeg neu feicio.

‍

Oes gennych fwy o gwestiynau?

‍

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill cyn cofrestru nad ydynt wedi'u cynnwys ar y dudalen hon, cysylltwch â [email protected].


Os ydych eisoes yn ddefnyddiwr ap BetterPoints ac os oes gennych gwestiynau nad ydynt wedi'u cynnwys ar y dudalen hon, edrychwch ar y Cwestiynau Cyffredin yn yr ap. Gellir eu gweld drwy'r Ddewislen yng nghornel chwith uchaf sgrin Hafan yr ap.

‍

Eisiau dechrau arni?

‍

Lawrlwythwch ein hap am ddim drwy'r botymau neu'r cod QR isod i gofrestru a dechrau ennill gwobrau heddiw.

‍

Gwnewch eich rhan i fynd i'r afael â newid hinsawdd yn Wrecsam

Mobile phone with betterpoints app.