Rhaglen wobrwyo am ddim yw BetterPoints Wrecsam sydd wedi’i chynllunio i helpu pobl i fod yn egnïol, ennill gwobrau a chefnogi masnachwyr lleol ac elusennau.
Gan ddefnyddio ap BetterPoints, gall unrhyw un sy’n byw, gweithio neu'n astudio yn Sir Wrecsam ennill gwobrau drwy gofnodi eu teithiau cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus, yn ogystal â gweithgareddau iach eraill.
Gellir gwario’r gwobrau y mae pobl yn eu hennill ar ystod eang o dalebau yng nghatalog yr ap, gan gynnwys rhai gan fusnesau lleol sy’n cymryd rhan.
I gofrestru eich busnes gyda BetterPoints Wrecsam, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: jack.windle@betterpoints.uk.
Pam ddylwn i gofrestru fy musnes?
Cyrraedd cwsmeriaid newydd 🗣
Cynyddu nifer yr ymwelwyr â’ch siop neu draffig i’ch gwefan 👣
Cynhyrchu incwm ychwanegol. Yn ôl Decathlon, am bob taleb £10 a gafodd ei defnyddio yn y siop, gwariodd defnyddwyr £22 ychwanegol. Mae caffis yn dweud wrthym fod hanner yr holl daliadau taleb yn cael eu defnyddio ochr yn ochr â gwariant ychwanegol 📈
Dim risg - ni sy’n talu am y talebau 🤝
Cysylltu eich brand â menter leol sy’n hyrwyddo cynaliadwyedd ac iechydr 🌳
“Mae wedi bod yn syml iawn. Mae’r wybodaeth yn yr ap wedi’i chyflwyno’n glir ac nid ydym erioed wedi cael unrhyw broblemau. Mae wedi dod ag amlygrwydd ychwanegol inni drwy’r ap, sydd wedi bod yn wych. Rydym wedi cael nifer o gwsmeriaid tro cyntaf a ddaeth i wybod amdanom drwy negeseuon ac e-byst BetterPoints. Mae hefyd wedi cael y fantais o gynhyrchu gwerthiannau ychwanegol. Bydd cwsmer yn dod i mewn gyda thaleb BetterPoints, ond wedyn yn prynu pethau eraill tra byddant yma. Mae’r gwariant ychwanegol hwnnw’n werthfawr iawn.” – Charlie, Sylfaenydd Zero Store yn Leamington Spa

Ffyrdd o gymryd rhan
Talebau: Talebau rhodd digidol i’w defnyddio yn eich siop neu ar-lein. Bydd BetterPoints yn ad-dalu eich busnes am werth unrhyw dalebau a ddefnyddir.
Gostyngiadau: Cynigion mewn nwyddau neu wasanaethau i gynyddu nifer yr ymwelwyr neu draffig ar y we.
Nawdd: Eitemau, profiadau neu wasanaethau noddedig y gellir eu hennill mewn raffl wobr.
I gofrestru eich busnes i BetterPoints Wrecsam, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: jack.windle@betterpoints.uk






