Ymunwch â BetterPoints Wrecsam

Mae BetterPoints Wrecsam yn ymwneud ag ysbrydoli teithiau iachach. Allwch chi helpu i greu Wrecsam lanach a gwyrddach drwy deithio mewn ffyrdd sy’n fuddiol i’r amgylchedd, i’ch iechyd ac i’ch cymuned, yn ogystal â helpu’r economi leol hefyd?

Mae ennill pwyntiau BetterPoints yn hawdd! Lawrlwythwch ap BetterPoints o’r App Store neu Google Play. Cofnodwch eich teithiau a chadwch olwg ar faint o bwyntiau rydych wedi’u hennill. Gallwch wario’ch pwyntiau gyda busnesau lleol sy’n cymryd rhan, brandiau’r stryd fawr, neu eu rhoi i’ch hoff elusen.

Dilynwch y cyfarwyddiadau hyn i ddechrau arni:

1. Lawrlwythwch ap BetterPoints o’r App Store neu’r Google Play (sganiwch y cod QR isod os nad ydych yn darllen hwn ar eich ffôn).
2. Tapiwch Ymunwch Nawr yn yr ap a llenwch y ffurflen.
3. Cewch eich ychwanegu’n awtomatig at BetterPoints Wrecsam os oes gennych god post o fewn ffin y sir. Bydd neges groeso am hyn ar eich llinell amser yn yr ap. Os ydych yn byw y tu allan i Wrecsam ond yn teithio i mewn yn rheolaidd, rhowch y cod cyfeirio wrexooa wrth gofrestru eich cyfrif.
4. Trowch y swyddogaeth tracio ymlaen neu i ffwrdd yn y gornel dde uchaf. Gadewch ef ymlaen i gofnodi eich teithiau’n awtomatig a sicrhau eich bod yn cofnodi pob taith (a pheidio â cholli allan ar wobrau).
5. Dechreuwch ennill pwyntiau BetterPoints a cheisiadau i mewn i raffl wobr BetterTicket!

Sut allwn ni eich helpu i aros yn llawn cymhelliant?

Gyda BetterPoints gallwch weld eich pwyntiau’n cronni yn yr ap. Edrychwch ar y gwobrau y gallwch eu hennill yma. Byddwn hefyd yn rhannu newyddion am yr hyn sy’n digwydd yn lleol i’ch helpu i gadw’n heini. Mae gennym rafflau rheolaidd i ennill gwobrau, a bydd gennym hefyd ymgyrchoedd, cystadlaethau a rhoddion am ddim drwy gydol y flwyddyn.

Faint o wybodaeth sydd angen i mi ei rhannu i gofrestru?

Pan fyddwch yn cofrestru gyntaf i ddefnyddio ap BetterPoints, gofynnir i chi ddarparu manylion personol i’ch rhoi ar ben ffordd. Mae hyn yn cynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, blwyddyn geni, lleoliad, a chod post. Gofynnwn hefyd i chi greu cyfrinair diogel ar gyfer cael mynediad i ap BetterPoints a diogelu eich cyfrif. Gallwch ddewis troi tracio awtomatig ymlaen: mae’r holl ddata GPS yn cael ei wneud yn ddienw, ei gasglu a’i ddefnyddio at ddibenion adrodd yn unig fel y gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wella cynllunio teithio ac ansawdd aer i bawb, a hefyd i’n helpu ni i wella ein hap a’n rhaglenni. Drwy rannu teithiau a draciwyd gan GPS rydych yn helpu i wneud Wrecsam yn wyrddach, yn lanach, yn fwy diogel ac yn fwy byw i bawb. I gael gwybod mwy am yr hyn rydym yn ei wneud gyda’ch gwybodaeth, gweler ein Datganiad Preifatrwydd.

Lawrlwythwch ap BetterPoints am ddim drwy’r botymau neu’r cod QR isod i ddechrau ennill gwobrau heddiw:

Gwnewch eich rhan i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn Wrecsam

Mobile phone with betterpoints app.